Cronfa Goffa Saunders Lewis
  • Saunders Lewis
  • Y Gronfa
    • Ymddiriedolwyr
  • Ysgoloriaeth
  • Enillwyr
    • Cyhoeddiadau
  • Deutsch
  • English
  • Français
  • Cysylltu-Contact

YR YSGOLORIAETH GOFFA

1. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion am Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis i’w galluogi i un ai:
  • dreulio amser ar gyfandir Ewrop yn astudio un o bedwar maes: drama a/neu ffilm, systemau gwleidyddol, cysylltiadau llenyddol y celfyddydau cain gan gynnwys cerddoriaeth;
  • neu gyflwyno astudiaeth yn ymwneud â chyfraniad Saunders Lewis i lên, theatr neu wleidyddiaeth Cymru.
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr ifanc o dan 35 oed ond gellir ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn dan amgylchiadau penodol.

2. Dyfernir yr Ysgoloriaeth bob dwy flynedd.

3. Ar derfyn cyfnod yr ysgoloriaeth disgwylir i’r deilydd gyflwyno deunydd yn Gymraeg yn seiliedig ar y gwaith a wnaed ganddo/ganddi, mewn ffurf a fo’n addas i’w gyhoeddi. Addasir y gofynion hyn ar gyfer gwaith creadigol.

4. Gwerth yr ysgoloriaeth fydd hyd at £10,000 ac fe bery dros ddwy flynedd.

5. Bydd disgwyl i’r ceisiadau gynnwys curriculum vitae, amlinelliad lled gyflawn o’r gwaith y bwriedir ei wneud os enillir yr ysgoloriaeth, amserlen fras ar gyfer cyflawni’r gwaith ac enwau a chyfeiriadau dau ganolwr.

6. Gofynnir i bob un sy’n ymgeisio am yr ysgoloriaeth anfon tri chopi print at yr Ysgrifennydd (Elwyn Jones, Tŷ'r Ysgol, Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2EL) a chopi electronig ato ar wews@me.com.

7. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer dyfarnu’r ysgoloriaeth yn Aberystwyth.

  • Saunders Lewis
  • Y Gronfa
    • Ymddiriedolwyr
  • Ysgoloriaeth
  • Enillwyr
    • Cyhoeddiadau
  • Deutsch
  • English
  • Français
  • Cysylltu-Contact