|
ANWEN ELIAS - Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac addasu i ddatganoli: astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a’r Bloque Nacionalista Galego
Bwriad y prosiect yw astudio sut mae pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol wedi addasu i ddatganoli mewn dau gyd-destun gwahanol: yng Nghymru ac yng Ngalisia. Yn y ddau le yma, datganolwyd grym sylweddol i’r lefel ranbarthol, ar ddiwedd y 70au yng Ngalisia, ac ar ddiwedd y 90au yng Nghymru. Y mae sefydlu sefydliadau democrataidd rhanbarthol wedi creu cyfleoedd newydd i bleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol. Rhwng 1999 a 2007, bu Plaid Cymru yn brif wrthblaid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn rhan o glymblaid gyda’r Blaid Lafur ers Hydref 2007. Yng Ngalisia, mae’r Bloque Nacionalista Galego (BNG) wedi esblygu o fod yn blaid radical ymylol yn ystod yr 1980au, i fod yn blaid mewn llywodraeth gyda’r Blaid Sosialaidd ers 2005. Ond er gwaetha’r llwyddiannau hyn, y mae’r ddwy blaid hefyd wedi wynebu nifer o sialensiau wrth geisio addasu i’w statws etholiadol a gwleidyddol newydd. Y mae tensiynau wedi codi yn ymwneud ag arweinyddiaeth, strategaeth, natur yr agenda bolisi a threfniant mewnol. Bydd yr astudiaeth yma yn ceisio ateb y cwestiwn canlynol: ai ffactorau unigryw ymhob cyd-destun a arweiniodd at y problemau yma wrth addasu i ddatganoli? Neu a yw pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn wynebu nifer o’r un sialensiau - a phroblemau - wrth iddynt ddatblygu i fod yn rymoedd gwleidyddol pwysig a phleidiau mewn llywodraeth? Ar sail dadansoddiad ansoddol o ddogfennau a chyfweliadau, bwriedir cymharu ymdrechion a phrofiadau Plaid Cymru a’r BNG wrth addasu i ddatganoli. Bydd canlyniadau’r astudiaeth yn esgor ar ddealltwriaeth ddyfnach o ddylanwad datganoli ar Blaid Cymru a’r BNG. Gall y casgliadau hefyd fod yn sail i arsylwadau mwy cyffredin ar y sialensiau sy’n wynebu pleidiau cenedlaetholgar, a phleidiau gwleidyddol eraill, o ganlyniad i newid yn ei statws etholiadol a/neu wleidyddol. MANON HEFIN MATHIAS - Astudiaeth feirniadol o ohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis
Bydd y gyfrol yn ystyried swyddogaeth gohebiaeth ym mywyd deallusol y llenorion uchod, gan godi cwestiynau ynglŷn â natur gohebiaeth a’i hystyried fel ffurf ynddi ei hun. Fel llenorion y byddaf yn ystyried y gohebwyr yn bennaf, a chanolbwynt yr astudiaeth fydd rôl gohebiaeth o fewn y broses lenyddol; ar y naill law fel platfform sydd yn caniatau i’r awdur ddiffinio ei syniadau ei hun, yn gyferbyniad i feddylfryd y llall, ac ar y llaw arall fel deialog, wrth i’r ddau awdur rannu syniadau a dylanwadu ar waith ei gilydd. Yn ogystal ag archwilio cyd-destun personol, hanesyddol, daearyddol a chymdeithasol y cynnwys, bydd yr astudiaeth yn ystyried cywair ac arddull y llythyron. Bydd y gyfrol, felly, yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r awduron hyn a’u gwaith, ond hefyd yn ystyried arwyddocâd gohebiaeth rhwng dau lenor. Y nod fydd dod i gasgliadau gwreiddiol ar ddylanwadau llenyddol drwy astudio llythyron dau o gewri llenyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru ochr yn ochr â’r ohebiaeth rhwng dau o awduron blaenllaw Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg. GWION LEWIS - Yr Hawl i'r Gymraeg Treuliodd Gwion Lewis haf 2004 ym Mhrifysgol yr Undeb Ewropeaidd yn Fflorens, yr Eidal, yn astudio'r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a'r gyfraith. Mae ffrwyth ei ymchwil, y gyfrol Yr Hawl i'r Gymraeg , yn gosod y Gymraeg yn ei chyd-destun cyfreithiol, ac yn pwyso a mesur Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 o safbwynt cyfreithiau rhyngwladol ac Ewropeaidd. Yn ôl Gwion, ni fydd y ddeddfwriaeth Brydeinig yn agos at fod yn ddigonol nes ei bod yn cydnabod fod gennym fel dinasyddion hawl ddynol i siarad ein hiaith gyntaf. Mae cyfreitheg hawliau dynol Prydain yn fwy soffistigedig nag y bu erioed ers dyfodiad Deddf Hawliau Dynol 1998, a dywed Gwion fod gan y llysoedd fframwaith syniadol gadarn bellach ar gyfer ymdrin â hawliau iaith. Hyd yn hyn, nid yw'r mudiad iaith yng Nghymru wedi llawn sylweddoli potensial y teclynnau cyfreithiol hyn. Gobaith Gwion yw y bydd Yr Hawl i'r Gymraeg yn llenwi'r bwlch, ac yn cynnig dadleuon mwy sylweddol i'r mudiad wrth i'r galw am 'ddeddf iaith newydd' gynyddu.
ELIN ROYLES - Sefydliadau datganoledig a chymdeithas sifil - gwersi Catalonia i Gymru? Syniad cymharol newydd yw cymdeithas sifil yng ngwleidyddiaeth y wladwriaeth Brydeinig. Yng Nghymru, mae rôl wleidyddol cymdeithas sifil yn ei babandod. Y gobaith oedd y byddai sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain at hybu cymdeithas sifil Gymreig (Paterson & Wyn Jones, 1999: 169). Wrth drafod datganoli a chymdeithas sifil yng Nghymru, yr arfer yw cymharu rôl allweddol cymdeithas sifil yn yr Alban yn ymgyrchu i sicrhau datganoli. Bwriad yr astudiaeth hon yw mynd i gyd-destun Ewropeaidd ehangach a chymharu Cymru a Chatalonia. Bydd yn defnyddio fframwaith cymharol i edrych ar y rhyngberthynas rhwng cymdeithas sifil a'r sustemau gwleidyddol i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r ddeinameg rhwng datganoli gwleidyddol a chymdeithas sifil yng Nghymru.
Er mwyn asesu beth ydi effaith llywodraeth ranbarthol ar gymdeithas sifil, bydd yr astudiaeth yn ceisio ateb dau brif gwestiwn ymchwil: i) Pa effaith gaiff llywodraeth ranbarthol ar rôl ddemocrataidd cymdeithas sifil? ii) Ydi llywodraeth ranbarthol yn dylanwadu ar hunaniaeth cymdeithas sifil?
Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, bydd yr astudiaeth yn ystyried yr agweddau canlynol. Yn gyntaf, er mwyn asesu'r gymhariaeth a gosod y cyd-destun, bydd yr ymchwil yn cymharu natur a chyd-destun cymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalonia. Yna, bydd yn cymharu strwythurau'r Generalitat yng Nghatalonia a'r Cynulliad Cenedlaethol gan roi sylw penodol i'r graddau mae'r strwythurau yn hybu cyfleon cyfranogaeth cymdeithas sifil yn y sustemau gwleidyddol gwahanol. Ar sail hyn, drwy ddefnyddio astudiaethau achos penodol bydd yr ymchwil yn edrych y fanylach ar y rhyng-berthynas rhwng grwpiau cymdeithas sifil a'r llywodraeth er mwyn asesu'r goblygiadau i rôl ddemocrataidd cymdeithas sifil a hunaniaeth. Bydd yr astudiaeth yn gwneud defnydd o lenyddiaeth gynradd ac eilradd, data meintiol. Hefyd bydd gwaith ymchwil gwreiddiol yn cynnwys cyfweliadau ac astudiaethau achos penodol.
Felly, mae'r ymchwil yn defnyddio technegau gwyddorau cymdeithasol sef gwaith cymharol sustemataidd i edrych yn ddyfnach ar sustemau gwleidyddol a diwylliant gwleidyddol. Pa ffordd well o wneud hyn nag ystyried sefyllfa Cymru mewn cyd-destun Ewropeaidd fel y gwnaeth Saunders Lewis ei hun.
Llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia – gwersi Catalwnia i Gymru?
SIONED PUW ROWLANDS - Yr Esthetig a Gwleidyddiaeth yr Ymylon Mae'r gyfrol yn trafod yr esthetig yng nghyd-destun gwleidyddiaeth cymunedau ymylol. Archwilir y berthynas rhwng yr esthetig, ideoleg a'r ysgrifol mewn testunau gan Twm Morys a dau awdur Tsiec, sef Bohumil Hrabal (1914-1997) a'r cyn Arlywydd, Václav Havel (1936-). Dadleuir fod y testunau hyn yn ymwneud â'r esthetig mewn modd deinamig, yn wahanol i'r syniad o'r esthetig fel anasthetig, fel rhywbeth anwleidyddol, a ddisgrifiwyd gan gryn dipyn o theori'r ugain mlynedd ddiwethaf - theori a luniwyd ar y cyfan yng nghyd-destun diwylliannau mwyafrifol. Dadleuir fod yr esthetig yn chwarae rhan sylfaenol yng ngwleidyddiaeth yr awduron hyn, sydd yn ymwneud â safbwyntiau lleiafrifol.
SIMON BROOKS - Cymhariaeth o fudiadau cenedlaethol canolbarth Ewrop mewn perthynas a Chymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg Bu'n fater o benbleth i mi erioed pam oedd y mudiad cenedlaethol Cymreig ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg mor swrth. Wedi'r cwbl, dyma'r cyfnod a adnabyddir yng ngweddill Ewrop wrth yr enw 'Oes Cenedlaetholdeb', y blynyddoedd ffurfiannol hynny pryd y bu cenhedloedd bychain diwladwriaeth canolbarth a dwyrain Ewrop yn dechrau ymryddhau o'u hualau. Beth pe bai Cymru wedi magu mudiad cenedlaethol cydnerth fel y gwnaethon nhw? A fyddai Cymru heddiw yn annibynnol neu'r iaith Gymraeg gymaint â hynny'n gryfach?
Dyna i chi gwestiwn diddorol! Ond ni fu modd i mi ystyried y cwestiwn hwn o ddifri' nes ennill Ysgoloriaeth Saunders Lewis. Gyda'r Ysgoloriaeth yn gefn i mi rwyf wedi dechrau ar y gwaith o feistroli'r Almaeneg, a hynny er mwyn medru darllen iaith ysgolheictod canolbarth Ewrop y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda'r wybodaeth ieithyddol hon, bwriadaf dreulio chwe mis yn Berlin - ar gyfnod sabothol o'm swydd fel Golygydd y cylchgrawn Barn - yn gwneud gwaith ymchwil mewn llyfrgelloedd.
Pan ddychwelaf i Gymru, bydd gen i (gobeithio!) y cefndir deallusol angenrheidiol er mwyn deall y cwestiwn hwn yn well, cyfle na fyddwn wedi ei gael oni bai am Ysgoloriaeth Saunders Lewis. Bwriadaf edrych wedyn ar waith radicaliaid Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg o'r newydd. Pobl oeddynt a feddyliai yn aml iawn mewn cyd-destun Ewropeaidd, dynion megis Gwilym Hiraethog ac Emrys ap Iwan. Byddaf yn cyhoeddi llyfr yn seiliedig ar waith ymchwil yr Ysgoloriaeth yn y blynyddoedd nesaf, ond fel tamaid i aros pryd fe ellir troi at fy adroddiad .
|