|
|
| Yr Ysgoloriaeth Goffa |
1. Cynigir yr ysgoloriaeth i bobl ifanc dan 35 mlwydd oed i'w galluogi i dreulio cyfnod ar gyfandir Ewrop yn astudio un o bedwar maes yn ei gysylltiadau Ewropeaidd:
2. Dyfernir yr Ysgoloriaeth bob dwy flynedd. 3. Ar derfyn cyfnod yr ysgoloriaeth disgwylir i'r deilydd gyflwyno deunydd yn Gymraeg yn seiliedig ar y gwaith a wnaed ganddo/ganddi, mewn ffurf a fo'n addas i'w gyhoeddi. Addasir y gofynion hyn ar gyfer gwaith creadigol. 4. Gwerth yr ysgoloriaeth fydd hyd at £10,000 ac fe bery dros ddwy flynedd. 5. Bydd disgwyl i'r ceisiadau gynnwys curriculum vitae, amlinelliad lled gyflawn o'r gwaith y bwriedir ei wneud os enillir yr ysgoloriaeth, amserlen fras ar gyfer cyflawni'r gwaith ac enwau a chyfeiriadau dau ganolwr. 6. Gofynnir i bob un sy'n ymgeisio am yr ysgoloriaeth anfon tri chopi o'u cais at yr Ysgrifennydd. 7. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer dyfarnu'r ysgoloriaeth yn Aberystwyth. |