Hafan
Saunders Lewis
Y Gronfa Goffa
Ymddiriedolwyr
Yr Ysgoloriaeth Goffa
Enillwyr
Cyhoeddiadau
Deutsch
English
Français
Manylion cysylltu
Cronfa Goffa Saunders Lewis
Y Gronfa Goffa

Hanes y Gronfa Goffa

Bu farw Saunders Lewis 1 Medi 1985. Y mis Mehefin canlynol, cyfarfu Dr Meredydd Evans a Dr Geraint Gruffydd yn nhŷ Emyr Humphreys yn Llanfair-pwll i drafod sefydlu Cronfa Goffa iddo. Cytunwyd ar y bwriad a chafwyd sêl bendith unig blentyn Saunders Lewis, Mrs Haydn Jones (Mair Saunders). At y tri a enwyd uchod ychwanegwyd enwau Alun Creunant Davies, Ann Ffrancon a'r Esgob Daniel Mullins yn Ymddiriedolwyr. Cyfarfu cyfarfod cyntaf Pwyllgor Apêl Cronfa Goffa Saunders Lewis yn Aberystwyth ar 3 Mehefin 1989. Cytunodd R Geraint Gruffydd i weithredu fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Meredydd Evans fel Ysgrifennydd ac yn cael ei gynorthwyo gan Ann Ffrancon, ac Alun Creunant Davies fel Trysorydd. At yr Ymddiriedolwyr fe ychwanegwyd Pwyllgor Rheoli tra grymus o dri pherson ar ddeg yn wreiddiol, a oedd yn cynnwys Mair Saunders a'r Arglwydd Prys-Davies o Lanegryn. Yr Arglwydd Prys-Davies, maes o law, a ddrafftiodd y cyfansoddiad a sicrhaodd i'r Gronfa Goffa statws elusennol.

Lansiwyd y gronfa ar 18 Hydref 1989 yn swyddfeydd y Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd - lleoliad symbolaidd addas o gofio am ddiddordebau Saunders Lewis. Gosodwyd nod o £150,000 ar gyfer y Gronfa, ac y mae'r nod hwnnw bellach wedi'i gyrraedd, diolch yn bennaf i lafur diflino'r Ysgrifennydd cyntaf a'i gynorthwyydd, i ymroddiad clodwiw amryw o Is-Bwyllgorau Sirol, ac i hwsmonaeth ofalus a hirben y Trysorydd a'r un a benodwyd yn ddiweddarach i'w gynorthwyo, sef Dr Richard Morgan. Ymddeolodd Dr Meredydd Evans fel Ysgrifennydd y Gronfa yn 1996 ac fe'i dilynwyd gan Ann Ffrancon. Bu hi'n Ysgrifennydd hyd 2003, pan ymddeolodd hithau a phan benodwyd yr Ysgrifennydd presennol, Elwyn Jones, i'w holynu. Ym mis Tachwedd 2005 bu farw'r Trysorydd, Alun Creunant Davies, a bellach y mae Dr Richard Morgan wedi ymgymryd â'r gwaith hwnnw.

Prif weithgaredd y Gronfa

Y mae'r Gronfa, drwy gyfrwng Pwyllgor Dewis ac arno gynrychiolaeth gref o blith prif sefydliadau diwylliannol Cymru, yn dyfarnu Ysgoloriaethau mewn pedwar maes, sy'n cynrychioli rhai o brif ddiddordebau Sauders Lewis ei hun: y ddrama (yn cynnwys ffilm), cysylltiadau llenyddol, systemau gwleidyddol a y celfyddydau cain (yn cynnwys cerddoriaeth). Y nod ymhob achos yw galluogi Cymry ifainc i dreulio peth amser ar gyfandir Ewrop er mwyn gweld pa arwyddocâd a allai fod i Gymru yn y datblygiadau Ewropeaidd - cyfres neu hanesyddol - yn y meysydd hyn. Ar ddiwedd eu cyfnodau yn Ewrop disgwylir iddynt gyflwyno adroddiad cryno yn Gymraeg mewn ffurf addas i'w chyhoeddi.

 



Hyd yn hyn dyfarnwyd Ysgoloriaethau i Angharad Price (llenyddiaeth), Heather Williams (llenyddiaeth), Gwawr Hughes (gwleidyddiaeth), Euros Lyn (ffilm), Sioned Puw Rowlands (llenyddiaeth), Gwion Lewis (gwleidyddiaeth), Elin Royles (gwleidyddiaeth) a Simon Brooks (gwleidyddiaeth); cafwyd cyfraniadau gwreiddiol a sylweddol gan bob un ohonynt.